Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ym mhentref Llansbyddyd, ger Aberhonddu ym Mhowys, drwy weithredu mesurau i arafu’r traffig, fel gostwng y terfyn cyflymder presennol, gwella’r goleuadau ar ochr y ffordd a gwella’r arwyddion ar yr A40.
Cynigwyd gan: Cymdeithas Trigolion Llansbyddyd
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mis Tachwedd 2008
Nifer y llofnodion: 67